Making Christ known in North Wales

Amdanom ni

Croeso i’n gwefan

Sefydlwyd Eglwys Emmanuel yn 1992 gan grŵp o gredinwyr a fu’n cyfarfod am sawl blwyddyn mewn lleoliadau gwahanol yn Llandudno. Capel gan y Methodistiaid Cymraeg oedd yr adeilad pan gafodd ei adeiladu nôl yn 1909, a pharhaodd felly hyd 1981. Bu’r eglwys yn wag am rai blynyddoed. Gwerthwyd y cynnwys ac o dipyn i beth aeth y capel a’i ben iddo. Yna yn 1989, prynwyd yr adeilad gan ddyn busnes lleol, gyda’r bwriad o gynnal cyngherddau a gweithgareddau eraill tebyg ynddo. Yn 1991 ailagorwyd yr adeilad ar ei newydd wedd fel Neuaddau Ganolog Llandudno, ond yn 1992 cafwyd perchnogion newydd, gyda Christnogion lleol yn ei brynu. Newidwyd yr enw i “Eglwys Emmanuel” a oedd yn ei flynyddoedd dechreuol yn perthyn i’r eglwys Assemblies of God.

Dros y blynyddoedd mae’r eglwys wedi parhau i gyfarfod yn wythnosol i addoli, cymdeithasu, addysgu ac i estyn cymorth i’r gymuned. Mae yma cnewyllyn gadarn o ffyddloniaid sydd wedi gwasanaethu pwrpas Duw dros y blynyddoedd. Mae’r eglwys hefyd yn weithgar gyda’i chenhadaeth gartref a thramor.